Sut i Gwyno

Wedi'i osod allan yn yr adrannau i'r chwith o'r dudalen hon yw gwybodaeth sy'n esbonio sut i:

  • gwyno am gorff cyhoeddus, neu
  • chwyno bod aelod o awdurdod lleol wedi torri'r cod ymddygiad.

Mae'r wybodaeth hwn hefyd ar gael ar ffurf daflen (fersiwn pdf):

  • Sut i gwyno am gorff cyhoeddus
  • Sut i gwyno bod aelod o awdurdod lleol wedi torri'r cod ymddygiad.

Darllenwch yr wybodaeth hwn yn ofalus os gwelwch yn dda gan y bydd yn eich helpu i ddeall y materion y mae'r Ombwdsmon yn gallu a ddim yn gallu edrych arnynt ac yn esbonio ichi sut i gwyno.  Os yr ydych yn dymuno cwyno am gorff cyhoeddus, ac os nad ydych eisoes wedi gwneud, dylech edrych i weld bod y sefydliad yr ydych eisiau cwyno amdano o'r math y mae'r Ombwdsmon yn gallu edrych i mewn iddo (mae'r rhestr ar gael yma).

Os wedi darllen yr wybodaeth hwn, yr ydych yn penderfynu eich bod eisiau cyflwyno cwyno, dylech wneud hynny drwy gwblhau'r ffurflen gwyno ar-lein priodol

  • ffurflen arlein i gwyno am gorff cyhoeddus
  • ffurflen arlein i gwyno bod aelod o awdurdod lleol wedi torri'r cod ymddygiad.

Er hynny, os yw'n well gennych, gallwch brintio'r ffurflen priodol isod, ei chwblhau a'i dychwelyd at swyddfa'r Ombwdsmon i'r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.

  • ffurflen gwyno (fersiwn pdf) i gwyno am gorff cyhoeddus
  • ffurflen gwyno (fersiwn pdf) i gwyno bod aelod o awdurdod lleol wedi torri'r cod ymddygiad.