Sut i gwyno amdanom ni
Nod yr Ombwdsmon yw darparu gwasanaeth ombwdsmon o’r radd flaenaf ar gyfer Cymru. Fel rhan o’r ymrwymiad hwnnw, mae’n anelu at:
- ddarparu proses agored, syml a rhwydd i edrych ar gwynion am y gwasanaeth a roddwn
- ymateb yn gyflym i gwynion; a
- ymddiheuro a gwneud iawn mewn modd priodol os ydym wedi rhoi gwasanaeth gwael.
Sut gallaf gwyno?
Os nad ydych yn fodlon gyda:
• phenderfyniad i beidio ag ymchwilio i'ch cwyn, neu
• benderfyniad i ddod i ben ag ymchwiliad i'ch cwyn, neu
• ganlyniad ein hymchwiliad
dylech apelio i'r Ombwdsmon naill ai drwy ysgrifennu ato yn uniongyrchol neu drwy'r swddog sy'n delio a'ch achos. Bydd rheolwr yn penderfyny sut orau i ymateb mewn modd agored a thryloyw.
Gallwch ddefnyddio'r drefn hon i gwyno am bethau eraill. Er enghraifft, efallai eich bod yn dymuno cwyno bod yna oedi ormodol wedi digwydd wrth ymateb i'ch gohebiaeth; neu eich bod yn teimlo bod aelod o staff wedi bod yn anfoesgar neu'n ddigymorth; neu nad ydym wedi gwneud yr hyn y gwnaethom dweud y byddem yn ei wneud.
Wrth bwy y dylwn i gwyno?
Dylech gyfeirio eich cwyn at:
John Young
Rheolwr Cwynion
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
E-bost: john.young@ombudsman-wales.org.uk
Rhif ffôn: 01656 641150
Beth fydd yn digwydd i’m cwyn?
Ni fydd y Rheolwr Cwynion fel arfer yn ymdrin â’ch cwyn ei hun, oni bai ei bod yn ymwneud â chais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Yr hyn y bydd yn ei wneud fydd trefnu i aelod uwch priodol o’r staff ymchwilio i’ch cwyn. Unwaith y byddwch chi wedi cwyno wrth y Rheolwr Cwynion, bydd yn anfon cydnabyddiaeth atoch cyn pen dau ddiwrnod i dderbyn eich llythyr neu'ch e-bost. Bydd y gydnabyddiaeth honno yn rhoi enw a manylion cyswllt y person a fydd yn gyfrifol am ymateb i chi. Ni fydd yr unigolyn hwnnw wedi bod yn ymwneud o’r blaen â’r mater yr ydych chi’n cwyno amdano. Byddan nhw’n rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r materion rydych chi’n eu codi ac yn ymchwilio fel sy’n briodol.
Anelwn at anfon ateb llawn i bob cwyn o fewn 20 diwrnod gwaith i'r diwrnod y bydd y gŵyn yn ein cyrraedd. Os nad yw hynny’n bosibl, er enghraifft os oes angen gwneud mwy o waith ar y materion a godir gennych, rhown wybod i chi.
Oes yna gyfyngiad amser ar gyfer cwyno?
Gall fod yn anodd trosglwyddo o gadair olwyn i gar. Yn gyffredinol, mae’r Ombwdsmon yn disgwyl i chi gyflwyno unrhyw gŵyn sydd gennych am ei wasanaeth o fewn amser rhesymol ar ôl i chi ddod yn ymwybodol o'r broblem, a beth bynnag o fewn deuddeng mis.
Beth os nad ydw i’n fodlon ar yr ymateb i’m cwyn am wasanaeth yr Ombwdsmon?
Dylech ysgrifennu at y Rheolwr Cwynion eto’n dweud eich bod yn dymuno apelio i’r Ombwdsmon. Dylech nodi mor glir ag y bo modd pam rydych chi'n anfodlon ar yr ymateb a gawsoch i'ch cwyn. Bydd y Rheolwr Cwynion yn cydnabod eich apêl o fewn 2 ddiwrnod gwaith i chi ei dderbyn. Bydd yr Ombwdsmon yn ystyried eich apêl ei hun a'i nod fydd anfon ymateb llawn atoch o fewn 20 diwrnod gwaith. Eto, os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Bydd penderfyniad yr Ombwdsmon yn derfynol.





