Diogelu Data
Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn rhoi nifer o hawliau i chi, gan gynnwys yr hawl i wneud cais am wybodaeth rydyn ni’n ei dal amdanoch chi, y cyfeirir ati fel ‘Cais Gwrthrych am Wybodaeth’.
Gwneud cais am eich gwybodaeth bersonol
Fel arfer, bydd angen i chi gyflwyno eich Cais Gwrthrych am Wybodaeth i ni ar bapur. Bydd hefyd o gymorth petaech yn nodi ‘Cais Gwrthrych am Wybodaeth’ ar eich cais. Dylech chi hefyd geisio nodi’n benodol yr wybodaeth bersonol y mae arnoch ei heisiau.
Dylid nodi bod Cais Gwrthrych am Wybodaeth at sylw’r Swyddog Gwybodaeth Reoli. Gellir ei anfon dros e-bost i james.merrifield@ombwdsmon-cymru.org.uk neu drwy’r post i’r cyfeiriad canlynol:
Swyddog Gwybodaeth Reoli
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5LJ
Ymateb
Byddwn yn eich ateb mor fuan â phosib, a chyn pen 40 diwrnod calendr ar ôl dyddiad eich cais. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd arnom angen rhagor o wybodaeth gennych chi cyn i ni allu ymateb. Fodd bynnag, bydd y terfyn amser ar gyfer ymateb yn cael ei ohirio nes byddwn yn cael yr wybodaeth ychwanegol angenrheidiol.
Gwybodaeth Eithriedig
Cynhelir ein holl ymchwiliadau yn breifat, ac mae ein deddfwriaeth lywodraethol yn gosod cyfyngiadau o ran datgelu gwybodaeth a ddaw i law’r swyddfa hon. Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn cynnwys eithriadau rhag y gofyniad i ddarparu gwybodaeth benodol wrth ymateb i Gais Gwrthrych am Wybodaeth. Os caiff gwybodaeth ei chelu oddi wrthych, cewch esboniad clir ynglŷn â pham fod angen celu’r wybodaeth honno.
Adolygiad Mewnol
Os nad ydych chi’n fodlon â’r ymateb a gawsoch i’ch Cais Gwrthrych am Wybodaeth, gallwch ofyn am adolygiad mewnol. Bydd pob adolygiad yn dilyn yr un weithdrefn, fel y nodir yn ein tudalennau Rhyddid Gwybodaeth yma.
Newyddion Diweddaraf
Ar 18 Ebrill 2012, fe gyhoeddodd yr Ombwdsmon adroddiad ar ei ymchwiliad i gŵyn yn erbyn Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Ceir manylion llawn
yma.