Canllaw i Wybodaeth
Rydym yn mynd ati’n rheolaidd i gyhoeddi gwybodaeth am y sefydliad, ein gwariant, ein blaenoriaethau, ein penderfyniadau, ein polisïau a’n gweithdrefnau, rhestri a chofrestri, a gwybodaeth am ein gwasanaethau. Cynlluniwyd y canllaw hwn i wybodaeth i'ch helpu i ddod o hyd i wybodaeth heb orfod cyflwyno cais am wybodaeth dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mae’r canllaw hwn i wybodaeth yn seiliedig ar gyfarwyddyd cynllun cyhoeddi enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer Cyrff Cyhoeddus Anadrannol ac awdurdodau cyhoeddus eraill.
Rhestrir gwybodaeth yn ôl y dosbarthiadau canlynol:
- Pwy ydym ni a beth ydym ni’n ei wneud
- Faint fyddwn yn ei wario ac ar beth
- Beth yw’n blaenoriaethau a sut ydym ni’n llwyddo
- Sut ydym ni’n gwneud penderfyniadau
- Polisïau a gweithdrefnau
- Rhestri a chofrestri
- Gwasanaethau yr ydym ni’n eu cynnig
1. Pwy ydym ni a beth ydym ni’n ei wneud
(Gwybodaeth am y sefydliad, strwythurau, lleoliadau, llywodraethu cyfreithiol)
2. Faint fyddwn yn ei wario ac ar beth
(Gwybodaeth ariannol yn ymwneud ag incwm a gwariant sy’n cael ei ragamcanu ac incwm a gwariant gwirioneddol, tendro, caffael, contractau ac archwiliadau ariannol)
- Cyfrifon blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
- Treuliau’r Tîm Rheoli [ar gael ar gais]
- Graddfeydd cyflog Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
- Gweithdrefnau caffael a thendro
- Cofrestr Contractau [contractwyr gyda gwerth – ar gael ar gais]
3. Beth yw’n blaenoriaethau a sut ydym ni’n llwyddo
(Strategaethau a chynlluniau, gwybodaeth perfformiad, arolygon ac adolygiadau)
4. Sut ydym ni’n gwneud penderfyniadau
(Prosesau penderfynu a chofnodion o benderfyniadau)
-
Proses Delio â Chwynion
-
Proses Cwyno am God Ymddygiad
- Camau Gweithredu Annerbyniol gan Achwynwyr
- Cynllun Dirprwyo
- Ymgynghoriadau cyhoeddus
- Cofnodion y Tîm Rheoli [ar gael ar gais]
- Cylch gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor Archwilio
- Cofnodion y Pwyllgor Archwilio [ar gael ar gais]
5. Polisïau a gweithdrefnau
(Y protocolau cyfredol ysgrifenedig, polisïau a gweithdrefnau ar gyfer cyflawni ein swyddogaeth a’n cyfrifoldebau)
6. Rhestri a chofrestri
(Gwybodaeth a gedwir mewn cofrestri, sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, a rhestri a chofrestri eraill)
- Cofrestr Asedau Sefydlog [ar gael ar gais]
- Cofrestr rhoddion a lletygarwch [llungopi ar gael ar gais]
- Cofrestr Buddiannau ar gyfer y Tîm Rheoli [llungopi ar gael ar gais]
7. Gwasanaethau yr ydym ni’n eu cynnig
(Cyngor ac arweiniad, llyfrynnau a thaflenni, trafodion a datganiadau i’r wasg)
Gwybodaeth nad yw’n cael ei rhestru uchod
Os nad yw’r wybodaeth rydych am ei chael wedi’i rhestru uchod, gallwch gyflwyno cais am wybodaeth dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae cyflwyno cais am wybodaeth ar ein tudalen Rhyddid Gwybodaeth.
Newyddion Diweddaraf
Ar 18 Ebrill 2012, fe gyhoeddodd yr Ombwdsmon adroddiad ar ei ymchwiliad i gŵyn yn erbyn Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Ceir manylion llawn
yma.