Rhyddid Gwybodaeth
1. Cyflwyniad i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Derbyniodd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 Gydsyniad Brenhinol ar 30ain Tachwedd 2000. Diben y Ddeddf yw rhoi i unigolion a chorff cyfreithiol megis cwmni yr hawl i wneud cais i weld gwybodaeth a ddelir gan amrywiaeth o awdurdodau cyhoeddus, yn amodol ar eithriadau penodol a bennir yn y Ddeddf. Nod y ddeddfwriaeth yw hybu didwylledd ac atebolrwydd ar ran awdurdodau cyhoeddus ac annog agwedd ragweithiol tuag at ryddhau gwybodaeth. Daeth yr hawl i weld gwybodaeth i rym ym mis Ionawr 2005.
2. Cynlluniau Cyhoeddi
Dan delerau’r Ddeddf rhaid i bob awdurdod cyhoeddus fabwysiadu a chynnal cynllun cyhoeddi. Dylai cynllun o’r fath ddisgrifio’r categorïau gwybodaeth y mae awdurdod un ai’n eu cyhoeddi eisoes neu’n bwriadu eu cyhoeddi. Yr amcan yw ei gwneud yn haws i unrhyw un sy’n gofyn am wybodaeth allu cael gafael ar y wybodaeth honno. Bydd y cynllun yn dynodi’r dosbarthiadau gwybodaeth a gaiff eu rhyddhau fel rheol, manylion sut y caiff ei chyhoeddi, sut y gellir cael gafael ar y wybodaeth a pha un ai a godir tâl amdani.
Rhaid i bob cynllun gael ei gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth.
3. Yr Hawl i Weld Gwybodaeth
O fis Ionawr 2005 ceir hawl gyffredinol i weld pob math o wybodaeth gofnodedig a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus. Mae rhai mathau penodol o wybodaeth yn eithriedig rhag cael eu datgelu dan y Ddeddf gan gynnwys gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’r ymgeisydd, gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â thrydydd partïon (Adran 40), gwybodaeth a ddarperir yn gyfrinachol pe byddai ei datgelu yn golygu torri cyfrinachedd sy’n agored i gyfraith gan y person hwnnw neu unrhyw un arall (Adran 41) a gwybodaeth y mae braint broffesiynol gyfreithiol yn berthnasol iddi (Adran 42). Mae Adran 44 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn eithrio datgelu’r holl wybodaeth os gwaherddir datgelu’r wybodaeth honno gan unrhyw ddeddf arall. (Gweler paragraff 5 isod).
Pan dderbynnir cais ysgrifenedig rhaid i’r awdurdod cyhoeddus dan sylw ddweud wrth y sawl sy’n cyflwyno’r cais pa un ai a yw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani ganddo ac os felly, yn amodol ar yr eithriadau rhagnodedig, cyflwyno’r wybodaeth. Dylid gwneud hyn fel arfer o leiaf 20 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais. Mae’n bosib y bydd awdurdodau yn codi ffi am y wybodaeth y gwnaed cais amdani a bydd yn rhaid cyfrifo’r ffi hon yn unol â’r Rheoliadau Ffioedd.
4. Nodau ac Amcanion
Diben Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru (OGCC) yw darparu gwasanaeth modern, hygyrch, effeithlon ac effeithiol, gan ganolbwyntio ar y pedair thema ganlynol:
- gweithio tuag at ‘siop un stop’ gwbl hygyrch i’r holl gwynion am wasanaethau cyhoeddus wedi ei hangori gan gyd-weithdrefnau a chyd-egwyddorion a chan beirianwaith unioni cyffredin;
- cydweithredu gydag Ombwdsmyn eraill a dysgu oddi wrth eu gwaith;
- sicrhau gwelliant parhaus er mwyn ennill a chadw statws canolfan ragoriaeth ym maes ymchwilio i gwynion; a
- sicrhau bod y gwersi a ddysgir o ymchwiliadau yn cael eu bwydo yn ôl at ddarparwyr gwasanaethau a llunwyr polisïau.
5. Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Mae Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) yn ddeilydd swydd annibynnol dan y Goron. Penodwyd Peter Tyndall fel OGCC o 21 Ebrill 2008 ymlaen, am gyfnod penodol o saith mlynedd. Ar hyn o bryd, mae hefyd yn dal y swyddi canlynol; bydd pob un ohonynt yn cael eu diddymu o 1 Ebrill 2006 ymlaen:
- Comisiynydd dros Weinyddu Lleol yng Nghymru dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974;
- Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Cymru dan Ddeddf Comisiynwyr Gwasanaeth Iechyd 1993, fel a ddiwygiwyd gan Atodlen 10 Deddf Llywodraeth Cymru 1998;
- Ombwdsman Gweinyddiaeth Cymru dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998; a’r
- Ombwdsmon Tai Cymdeithasol dan Ddeddf Tai 2004.
6. Prif Weithgareddau
Prif weithgareddau OGCC yw:
- ymchwilio i gwynion oddi wrth aelodau’r cyhoedd yn erbyn awdurdodau lleol yng Nghymru;
- ymchwilio i honiadau yn erbyn aelodau awdurdodau lleol (gan gynnwys cynghorau tref a chynghorau cymuned) o dorri cod ymddygiad eu hawdurdod i aelodau;
- ymchwilio i gwynion oddi wrth aelodau’r cyhoedd yn erbyn cyrff y GIG, ymarferwyr gwasanaethau iechyd teuluol a darparwyr annibynnol gwasanaethau’r GIG yng Nghymru;
- ymchwilio i gwynion yn erbyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad; ac
- ymchwilio i gwynion yn erbyn landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.
7. Cynllun Cyhoeddi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Diben y cynllun yw rhoi arweiniad i’r dosbarthiadau gwybodaeth y mae OGCC yn bwriadu eu rhyddhau fel rheol, sut y caiff y wybodaeth ei chyhoeddi ac a yw’r wybodaeth ar gael yn ddi-dâl ai peidio.
Dywed y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth y bydd rhai mathau penodol o wybodaeth yn eithriedig rhag cael ei datgelu gan gynnwys gwybodaeth sydd yn gyfrinachol dan Ddeddf Seneddol arall. (Gweler paragraff 3, uchod). Mae’r ddeddfwriaeth alluogi yn cyfyngu ar ddatgelu gwybodaeth a geir yn ystod ymchwiliad i un ai gwyn am gamweinyddu ac anghyfiawnder neu honiad o gamymddygiad ar ran aelod o awdurdod lleol. Felly, mae cwynion unigol a ffeiliau achos honiadau a ddelir gan yr Ombwdsmon yn eithriedig rhag darpariaethau datgelu’r ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.
8. Cyflwyno’r Wybodaeth
Mae rhai eitemau penodol yn y cynllun ar gael ar wefan OGCC www.ombudsman-wales.org.uk a gellir eu llwytho i lawr am ddim. Mae'r mwyafrif o'r dogfennau hyn ar fformat pdf. Rhaid cael Adobe Acrobat Reader i'w darllen. Mae hwn ar gael i’w lwytho i lawr oddi ar wefan y OGCC yn rhad ac am ddim.
Mae copïau caled o bob dogfen a gyhoeddir gan y OGCC hefyd ar gael yn rhad ac am ddim am gopi sengl. Codir tâl am gostau llungopïo a phostio ar gyfer sawl gopi.
Gellir cyflwyno deunydd wedi ei deipio mewn print bras os gofynnir amdano. Gellir hefyd wneud trefniadau i gynhyrchu rhai dogfennau penodol mewn braille neu ar dâp sain.
Mae adroddiadau ymchwiliadau i gwynion a/neu honiadau unigol ar gael am ddim am gopïau unigol. Codir tâl am lungopïo/postio os archebir copïau niferus.
Caiff copïau o’r pamffledi canlynol eu hanfon i gyrff dan awdurdodaeth ac i fudiadau gwirfoddol, megis y Canolfannnau Cyngor ar Bopeth ayb:
• Sut i gwyno am gorff cyhoeddus
• Sut i gwyno bod aelod o awdurdod lleol wedi torri'r Côd Ymddygiad.
Tra nad yw pob dogfen a gyhoeddir gan y OGCC yn ddwyieithog yn Saesneg a Chymraeg gellir gwneud trefniadau i gyfieithiadau gael eu gwneud os yn briodol.
9. Sut i Ofyn am Wybodaeth
Mae’n bosib cael gafael ar beth gwybodaeth sydd ar gael dan y cynllun yn uniongyrchol ar lein oddi ar wefan PSOW. Os nad yw ar gael, neu os na chynhwysir y wybodaeth yn y cynllun, fyddech chi gystal â chyflwyno cais ysgrifenedig at y Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol, Ombwdsmon y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5 LJ, ffacs 01656 641199 neu e-bost ask@ombudsman-wales.org.uk
Wrth ofyn am wybodaeth, dylech gynnwys y manylion canlynol:
- Eich enw a’ch cyfeiriad;
- Y wybodaeth neu’r dogfennau yr hoffech eu gweld;
- Ym mha fformat yr hoffech i’r wybodaeth gael ei hanfon atoch (h.y. fel copi caled, e-bost neu ar ddisg cyfrifiadur).
10. Amser Ymateb
Os yw’r wybodaeth a geisiwch ar gael yn hawdd, er enghraifft, os y’i cynhwysir yn y cynllun cyhoeddi byddwn yn ei hanfon atoch cyn pen tri diwrnod gwaith. Ambell dro ni fydd hyn yn bosib, mewn unrhyw amgylchiadau fodd bynnag byddwn fel arfer yn darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani cyn pen 20 diwrnod gwaith.
11. Trefn Gwyno
Polisi y PSOW yw bod mor agored â phosib a chyflwyno’r wybodaeth y gofynnir amdani pryd bynnag y bo hynny’n bosib.
Os gwrthodir cais am hawl bersonol i weld unrhyw wybodaeth, byddwn yn ysgrifennu atoch cyn pen y cyfnod 20 diwrnod gwaith y cyfeirir ato uchod i esbonio’r rhesymau am y penderfyniad. Os nad ydych yn fodlon mae gennych hawl i apelio. Mae hyn hefyd yn wir os credwch fod unrhyw d¬âl a godwyd mewn cysylltiad â chyflwyno’r wybodaeth yn annheg. Os delir unrhyw wybodaeth yn ôl o ddogfen a ryddheir dan y cynllun cyhoeddi, bydd y ddogfen wedi ei nodi’n glir i ddangos o ble y tynnwyd y wybodaeth a cheir manylion yr eithriad y dibynnwyd arno i wneud hynny. Os byddwn yn gwrthod rhoi i chi ran o’r wybodaeth y gofynasoch amdani byddwn yn ysgrifennu gan roi i chi’r rhesymau am y penderfyniad.
Os nad ydych yn fodlon gyda’r rhesymau a roddwyd dylech ysgrifennu at:-
Y Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol,
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5 LJ
Ffôn: 01656 641150
Ffacs: 01656 641199
Gwefan: www.ombwdsmon-cymru.org.uk
E-bost: holwch@ombwdsmon-cymru.org.uk
Byddwn yn ymdrechu i roi ateb llawn i chi am eich cwyn cyn pen 28 diwrnod gwaith. Os oes rheswm da pam na fydd hyn yn bosib byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn dweud wrthych.
Os ydych yn dal yn anfodlon mae’n agored i chi apelio at:-
Y Comisiynydd Gwybodaeth,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Swydd Gaer, SK9 5AF
Ffôn: 01625 545700
Ffacs: 01625 545510.
Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth yn gyfrifol am rediad y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan gynnwys cymeradwyo/diddymu cynlluniau cyhoeddi gan sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn cydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf, darparu gwybodaeth a chynghori yn gyffredinol ynghylch y Ddeddf a hybu arferion da yn gyffredinol.
12. Y Wybodaeth sydd ar Gael
Mae’r wybodaeth sydd ar gael wedi cael ei grwpio dan y penawdau canlynol, adroddiadau cyhoeddedig a phamffledi, dogfennau rheoli, canllawiau gweithdrefnau, personél.
Os bydd yr eitemau ar gael ar y wefan darperir dolenni cyswllt er mwyn cyrraedd at y ddogfen dan sylw.
(i) Adroddiadau Cyhoeddedig a Phamffledi
- Adroddiadau Blynyddol
- Adroddiadau ymchwiliadau, heb gynnwys y rhai hynny y defnyddiwyd y “darpariaethau nid i’w cyhoeddi” yn eu cylch [A30 (7) Deddf Llywodraeth Leol 1974 Adran 44 Deddf Rhyddid Gwybodaeth.]
- Pamffledi 'Sut i Gwyno'
(ii) Rheoli
- Siart trefniadaeth
- Cynllun Corfforaethol
- Memorandwm Ariannol
- Polisiau Ariannol
- Cyfrifon Blynyddol
- Cynllun Dirprwyo
(iii) Gweithdrefnau
- Gweithdrefnau Ymchwilio - Cwynion am gamweinyddu neu methiant gwasanaeth
- Gweithdrefnau Ymchwilio - Cwynion bod aelodau llywodraeth leol wedi torri'r cod ymddygiad
- Polisi Iechyd a Diogelwch
- Gweithredoeddd Annerbyniol gan Achwynwyr
(v) Perthynas gyda chyrff eraill
- Protocol yr heddlu
- Rhestr o’r sefydliadau y mae’r Ombwdsmon yn aelod ohono
(v) Personél
- Trefn ddisgyblu
- Trefn gwyno
- Safonau Ymddygiad
- Absenoldeb Salwch
- Caniatad Tosturiol ac Absenoldeb Argyfwng
- Gwyliau
- Oriau Hyblyg
13. Sut i gysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Cynllun hwn neu mewn perthynas â hawl i weld ein gwybodaeth yn gyffredinol cysylltwch â:
Y Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5 LJ
Ffôn: 01656 641150
Ffacs: 01656 641199
Gwefan: www.ombwdsmon-cymru.org.uk
E-bost: holwch@ombwdsmon-cymru.org.uk





