Preifatrwydd a Chyfreithiol

Wrth inni ystyried eich cwyn, byddwn angen casglu gwybodaeth bersonol amdanoch. Er mwyn ymchwilio i’ch cwyn, bydd angen inni rannu gwybodaeth gyda’r sefydliad dan sylw a chyrff perthnasol eraill. Os hoffech wybod sut y bydd yr wybodaeth yr ydych yn darparu yn cael ei defnyddio, ffoniwch ein Swyddog Rheoli Gwybodaeth ar 01656 644200. Ef hefyd sydd yn delio gyda cheisiadau am gael mynediad at wybodaeth bersonol yr ydym o bosibl yn ei dal amdanoch.

Preifatrwydd a’n gwefan

Nid yw ein gwefan yn galluogi ein hymwelwyr i gyfathrebu ag ymwelwyr eraill na phostio gwybodaeth y gall eraill gael mynediad ati.

Briwsion

Nid ydym yn defnyddio briwsion ar ein gwefan. Defnyddir briwsion i dracio symudiadau ymwelwyr ar safle. Gall gwefannau ddefnyddio briwsion i helpu i fonitro’r defnydd o ddolenni adrannau poblogaidd ar y safle.

Ffeiliau cofnodi/Monitro Traffig

Mae ffeiliau cofnodi yn ein galluogi i gofnodi defnydd pobl o’r safle. Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn casglu gwybodaeth y ffeiliau cofnodi oddi wrth ein holl ymwelwyr, a defnyddiwn y rhain i wella golwg y safle a’r wybodaeth sydd arno, yn seiliedig ar y ffordd mae defnyddwyr yn llywio o’i gwmpas. Nid yw ffeiliau cofnodi yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi.

Mynd i safle arall o’n gwefan ni

Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i safleoedd eraill. Darperir y rhain fel cymorth ond nid yw’r ffaith eu bod wedi’u cynnwys yn golygu bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn arnodi nac yn cymeradwyo y safleoedd eraill hyn. Nid yw Swyddfa’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am yr arferion preifatrwydd o fewn y safleoedd eraill hyn. Dylech fod yn ymwybodol o hyn wrth i chi adael y safle ombudsman-wales.org.uk ac rydym yn eich annog chi i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill y byddwch yn mynd iddynt.

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Os yw’r polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn cynnwys y fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon. Drwy gadw golwg ar y dudalen hon yn rheolaidd rydych bob amser yn gwybod pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn ni’n ei rhannu gyda phartïon eraill.