Gwneud cwyn

 

Gall yr Ombwdsmon ystyried dau fath o gwyn:

  • am gorff cyhoeddus, neu
  • bod aelod o awdurdod lleol wedi torri'r cod ymddygiad.

Isod ceir dau lyfryn.  Darllenwch y llyfryn sy'n berthnasol i'r fath o gwyn yr ydych yn dymuno ei gyflwyno.  Bydd yr wybodaeth a geir ynddynt yn eich helpu i ddeall y materion y mae'r Ombwdsmon yn gallu a ddim yn gallu edrych arnynt ac yn esbonio ichi beth fydd yn digwydd i'ch cwyn. Os ar ôl darllen yr wybodaeth hyn, yr ydych yn penderfynu eich bod yn dymuno cwyno, dylech wneud hyn drwy gwblhau y ffurflen arlein. 

Er hynny, os yw'n well gennych, gallwch hefyd brintio'r ffurflen briodol (i'w gael wrth waelod y dudlen hon), ei chwblhau a'i dychwelyd at swyddfa'r Ombwdsmon i'r cyfeiriad a ddangosir isod.  Os yr ydych yn dymruno cwyno am gorff cyhoeddus fe fudd ein ffurflen arlein yn rhoi cymorth ichi adnabod y corff yr ydych yn dymuno cwyno yn ei erbyn.  Er hynny, os yr ydych yn penderfynu cwblhau'r ffurflen brintiedig, fe'ch cymhellir i weld bod y sefydliad yr ydych eisiau cwyno amdano o'r math y mae'r Ombwdsmon yn gallu edrych i mewn iddo (mae'r rhestr ar gael yma). 

 
Cwyno am gorff cyhoeddus (pdf)                 Cwyno am aelod o awdurdod lleol (pdf)

Sut i gwyno am gorff cyhoeddus.                             Sut i gwyno bod aelod o awdurdod lleol wedi torri'r cod ymddygiad.

 

Gwnewch e Ar-lein

Gweund cwyn

Hoffwn wneud cwyn am:

Ailddechrau eich ffurflen

Post

Llwythwch y ffurflen briodol

Postiwch y ffurflen wedi'i llenwi i:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ