Addasu Maint y Testun:AAA
 
 
 

Cyrff o fewn awdurdodaeth yr Ombwdsmon

Isod ceir rhestr o'r mathau o gyrff sy'n dod o fewn awdurdodaeth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Os yr ydych yn dymuno cwyno ond nid ydych yn gallu gweld y math o gorff yr ydych eisiau cwyno amdano isod, efallai gall rhyw gynllun ombwdsmon neu gorff delio â chwynion arall eich helpu.  O bosibl, bydd ein tudalen gysylltiadau eich helpu yn hyn o beth ac efallai bydd gwefan Sefydliad Ombwdsmyn Prydain ac Iwerddon yn arbennig o ddefnynddiol ichi. 

Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cynulliad Cymru
Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llywodraeth leol, tân a’r heddlu

Awdurdod lleol yng Nghymru (mae hyn yn cynnwys cynghorau bwrdeistref sirol/ cynghorau sirol a chynghorau cymuned)
Bwrdd ar y cyd y mae pob un awdurdod sy’n perthyn iddo yn awdurdodau lleol yng Nghymru
Awdurdod tân ac achub yng Nghymru a sefydlwyd gan gynllun dan adran 2 Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (c.21) neu gynllun sy’n berthnasol i adran 4 y Ddeddf honno
Awdurdod heddlu dros ardal heddlu yng Nghymru.

Yr Amgylchedd

Awdurdod Parc Cenedlaethol dros Barc Cenedlaethol yng Nghymru
Gyngor Cefn Gwlad Cymru
Asiantaeth yr Amgylchedd
Y Comisiynwyr Coedwigaeth
Pwyllgor amddiffyn llifogydd rhanbarthol dros ardal sy’n cynnwys Cymru i gyd neu sy’n rhannol yng Nghymru
Bwrdd draeniad mewnol dros ardal draeniad mewnol sy’n cynnwys Cymru i gyd neu sy’n rhannol yng Nghymru

Iechyd a gofal cymdeithasol

Cyngor Gofal Cymru                                                                                                                                                                                                                       Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru
Bwrdd Iechyd Lleol.
Ymddiriedolaeth GIG sy’n rheoli ysbyty neu sefydliad neu gyfleuster arall yng Nghymru.
Awdurdod Iechyd Arbennig nad yw’n cyflawni swyddogaethau yn Lloegr yn unig neu’n bennaf yn Lloegr.
Canolfan Iechyd Cymru.
Cyngor Iechyd Cymuned.
Darparwr annibynnol yng Nghymru.
Darparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru.
Unigolyn sy’n cyflawni swyddogaethau a roddwyd dan reoliadau adran 113(2) Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (c. 43).

Tai

Landlord cymdeithasol yng Nghymru (yn cynnwys cymdeithasau tai)

Addysg a hyfforddiant

Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
Panel apeliadau derbyn a sefydlwyd yn unol â’r rheoliadau dan adran 94(5) neu 95(3) Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (c. 31).
Corff llywodraethu unrhyw gymuned, mudiad neu ysgol wirfoddol cyn belled â’u bod yn gweithredu mewn cysylltiad â derbyn disgyblion i’r ysgol neu fel arall yn cyflawni unrhyw un o’u swyddogaethau dan Bennod 1 Rhan 3 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
Panel apeliadau gwaharddiadau a sefydlwyd yn unol a’r rheoliadau dan adran 52 Deddf Addysg 2002 (c. 32).

Celf a hamdden

Cyngor Celfyddydau Cymru.
Cyngor Chwaraeon Cymru.

Amrywiol

Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

 
Mae gwybodaeth ar sut i gwyno am gorff cyhoeddus hefyd ar gael yn yr ieithoedd canlynol: