Amdanom ni
Y Rôl
Prif rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yw ymchwilio i gwynion a gyflëir iddo gan aelodau o’r cyhoedd am y ffordd y maent wedi cael eu trin gan gorff cyhoeddus. Cynhelir ymchwiliad annibynnol a diduedd i’r cwynion, ac os caiff cwyn ei chadarnhau, bydd yr Ombwdsmon yn dweud beth ddylai’r corff cyhoeddus ei wneud er mwyn unioni’r cam â’r achwynydd a bydd yn pwysleisio’r angen i’r corff hwnnw wella safon ei wasanaethau yn y dyfodol. Bydd hefyd yn hyrwyddo arferion gweinyddu da a safonau ymddygiad uchel drwy ymchwilio i honiadau bod aelodau o awdurdodau cyhoeddus wedi torri côd ymddygiad eu hawdurdod eu hunain. Caiff y gwersi a ddysgwyd o ymchwiliadau eu cyhoeddi, ynghyd â’r rheiny a ddysgwyd gan Ombwdsmyn eraill.
Blaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth
1. Gwasanaeth ar gyfer yr aelod unigol o’r cyhoedd
Mae’r Ombwdsmon yn disgwyl i gyrff cyhoeddus drin pobl yn deg, â pharch ac mewn ffordd effeithiol. Pan fo pobl yn tybio eu bod wedi cael eu trin yn annheg, mae’n rhaid i’r gwasanaeth ombwdsmon ddarparu dull sydd ar gael yn rhwydd er mwyn iddynt gael cyfleu eu cwyn. Mae’n rhaid cynnal ymchwiliad annibynnol a diduedd, ac os caiff y gŵyn ei chadarnhau, mae’n rhaid unioni’r cam mewn ffordd deg.
2. Allgymorth
Bydd yr Ombwdsmon yn chwilio am ffyrdd i wneud y gwasanaeth ar gael i bawb sydd ei angen, gan gynnwys yr aelodau rheiny o’r gymdeithas sy’n agored i niwed ac yn ddifreintiedig, gan gynnwys y gymuned pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.
3. Datrysiad anffurfiol
Pan fo hynny o gymorth, ceisir datrysiad anffurfiol a chyflym ar gyfer unrhyw achwynydd, cyn belled nad yw hyn yn niweidiol i fudd ehangach y cyhoedd.
4. Ymchwiliad diduedd ac effeithiol
Pan ei bod yn briodol cynnal ymchwiliad ffurfiol, bydd swyddogion yr Ombwdsmon yn gwneud hynny mewn ffordd ddiduedd a thrylwyr, er y bydd yr Ombwdsmon yn awyddus i ddatrys y mater cyn gynted â phosib. Er mwyn gwneud hyn, bydd y gwasanaeth y mae ef yn ei arwain yn rheoli’i adnoddau’n effeithiol, ac yn mynd ati’n egnïol i werthuso perfformiad gan arddel safonau uchel.
5. Sicrhau unioniad priodol
Pan fo’r Ombwdsmon yn cadarnhau cwyn, bydd yn mynd ati’n egnïol i geisio unioniad sy’n gymesur â’r cam a wnaed â’r achwynydd.
6. Bod yn effro i oblygiadau ehangach
Pan eu bod wrthi’n ymchwilio i gŵyn, bydd swyddogion yr Ombwdsmon yn gyson yn effro i’r posibilrwydd nad yw hwn yn achos unigol ac y gallai unigolion eraill fod wedi dioddef mewn ffordd debyg. Os felly, bydd yr Ombwdsmon yn mynd ati i geisio unioniad tebyg i’r bobl hynny.
7. Hyrwyddo arferion gweinyddu da
Pan fo ganddo’r pŵer i wneud hynny, ac er mwyn sicrhau gwell gwasanaeth ar gyfer y dinesydd unigol, bydd yr Ombwdsmon yn rhoi cyngor ynghylch arferion gweinyddu da i gyrff sydd o fewn ei awdurdodaeth. Gwneir hyn yn gynnil ac ar ôl ymgynghori â’r cyrff dan sylw yn unig, gan elwa ar brofiadau yng Nghymru a hefyd ar brofiadau gyda chynlluniau ombwdsmon eraill.
Bydd yr Ombwdsmon yn sicrhau y cynhelir ymchwiliadau trylwyr ond cymesur i honiadau am dorri’r côd ymddygiad ar gyfer aelodau awdurdodau lleol.





