Amdanom ni
Ynglŷn â fi a'm tîm
Fy enw yw Peter Tyndall ac fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru y mae gennyf bwerau cyfreithiol i edrych i mewn i gwynion am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yr wyf hefyd yn ymwchilio i gwynion bod aelodau cyrff llywodraeth leol wedi torri cod ymddygiad eu hawdurdod. Yr wyf yn annibynnol o bob corff cyhoeddus.
Y mae gennyf dîm o bobl sy'n fy nghynorthwyo i ymchwilio cwynion. Y mae'r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu yn ddiduedd ac yn rhad ac am ddim.
Mae'r weledigaeth, gwerthoedd, pwrpasau, dibenion a'r nodau strategol yr ydym wedi gosod ar gyfer ein gwasanaeth wedi'u gosod isod.
Ein gweledigaeth
Cyfrannu at ddatblygiad gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghymru trwy
sicrhau bod darparwyr gwasanaethau’n parhau i werthfawrogi a dysgu gwersi
trwy gwynion.
Ein gwerthoedd
Hygyrchedd –
bod yn agored â phawb yn ein holl gymunedau a gweithio i sicrhau
nad yw pobl sy’n gwynebu sialensau o ran argaeledd yn cael eu hallgau. Byddwn yn
gwrtais, yn dangos parch, a byddwn yn hawdd i siarad ag. Byddwn yn cyfathrebu ag
achwynwyr yn y dull maent yn ddweud wrthym sydd orau ganddynt.
Rhagoriaeth –
bod yn broffesiynol ac awdurdodol ym mhopeth yr ydym yn ei
wneud a hyrwyddo rhagoriaeth yn y gwasanaethau yr ydym yn gweithio â hwy.
Dysgu –
credwn y dylem wella trwy ddysgu o’n profiadau ein hunain ac y dylem
helpu eraill i ddysgu o’u profiadau hwythau.
Tegwch –
byddwn yn cadw’n hannibyniaeth ac yn gwneud penderfyniadau mewn
ffordd wrthrychol ar ôl ystyried y ffeithiau’n ofalus.
Effeithiolrwydd –
byddwn yn gwneud yn si ˆ wr ein bod yn defnyddio adnoddau i
sicrhau gwerth gorau i goffrau’r wlad.
Bod yn gyflogwyr da –
byddwn yn parhau.
Ein dibenion
-
Ystyried cwynion yn erbyn cyrff cyhoeddus.
-
Ystyried cwynion sy’n honni bod aelodau awdurdodau lleol wedi torri’r cod
ymddygiad.
-
Cywiro pethau – yr ydym yn ymdrechu i roi pobl yn y sefyllfa y byddent ynddi pe
na baent wedi dioddef anghyfiawnder, a gweithio i sicrhau’r canlyniad gorau posibl
os oes anghyfiawnder wedi digwydd.
-
Cydnabod a rhannu arferion gorau.
-
Gweithio â chyrff cyhoeddus i sicrhau bod y gwersi sy’n dod i’r amlwg trwy ein
hymchwiliadau’n cael eu dysgu.
-
Sicrhau gwelliant parhaus mewn safonau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
trwy gynorthwyo cyrff cyhoeddus i wneud pethau’n iawn y tro cyntaf – byddwn
yn gweithio i leihau nifer y cwynion trwy weithio.
Nodau strategol
Nod Strategol 1: Codi ymwybyddiaeth o’n gwasanaeth i alluogi pobl i ddeall yr hyn yr ydym yn ei wneud, a bod pawb sydd ei angen yn gallu cael gafael arno a’i ddefnyddio.
Nod Strategol 2: Bod â phrosesau o safon uchel ar waith i ddelio â chwynion, sy’n ystyried ac yn penderfynu ar gwynion mewn modd trylwyr ond cymesur, ac sy’n cyfleu penderfyniadau’n eglur.
Nod Strategol 3: Gweithio â chyrff cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus gwell yn cael eu darparu o ganlyniad i’r gwersi y gellir eu dysgu o’r cwynion yr ydym yn ymchwilio iddynt.
Nod Strategol 4: dangos bod ein hadnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithlon ac effeithiol.