Achos 200802231 & 200802232 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Crynodeb
Cwynodd Mrs P fod ei mab sy’n oedolyn (Mr P), a oedd ag Afiechyd Huntington datblygedig, wedi bod yn yr ysbyty’n ddiangen am ddwy flynedd, ar ôl cael ei dderbyn am bythefnos o adsefydlu yn ôl yr hyn yr oedd hi’n ei ddeall. Roedd Mrs P yn bryderus ynghylch y cynlluniau arfaethedig ar gyfer rhyddhau ei mab ac ynghylch ei ofal yn y dyfodol, oherwydd er iddo ddweud yn flaenorol ei fod yn dymuno aros gartref, teimlai gwasanaethau'r GIG a oedd yn gyfrifol am Mr P nad oedd yn bosib gofalu amdano’n ddiogel gartref gyda’r adnoddau a oedd ar gael bryd hynny. Roedd Mrs P hefyd yn anghytuno gyda’r honiad bod angen gofal 24 awr ar Mr P, a chwynodd nad oedd y rhesymau a gafodd dros anfon Mr P i’r ysbyty yn gywir.
Gan roi sylw i gwynion Mrs P ynglŷn â faint o amser y bu ei mab yn yr ysbyty a’r trefniadau ynghylch ei ofal yn y dyfodol, canfu’r Ombwdsmon na lwyddwyd i gyflawni’r asesiadau priodol, na lwyddwyd i ystyried yr holl ffeithiau perthnasol a oedd yn gysylltiedig â’r achos, ac y bu gormod o oedi. Pe bai asesiadau cynhwysfawr wedi cael eu gwneud o fewn cyfnod rhesymol, a phe bai’r holl ffeithiau perthnasol wedi cael eu hystyried yn briodol, efallai y byddai Mr P wedi gallu dychwelyd i’w gartref yn gynt nag y gwnaeth. Dyfarnodd yr Ombwdsmon fod y rhan hon o’r gŵyn wedi’i chyfiawnhau. Argymhellodd y dylai Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro (fel y’i gelwir yn awr) ymddiheuro i Mrs P am y methiannau a nodir yn yr adroddiad, a thalu £1,500 iddi er mwyn cydnabod yr amser a'r gofid y mae wedi’i wynebu wrth fwrw ymlaen â'r gŵyn, ynghyd â'r anhwylustod o orfod ymweld â Mr P bob dydd er mwyn ei fwydo (gan nad oedd staff yr ysbyty yn gallu gwneud hyn). Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd atgoffa’r staff bod angen cynnal asesiadau llawn, ceisio cyngor arbenigol pan fo angen, ac ystyried, pan fo hynny’n briodol, cynorthwyo gofalwyr i gael hyfforddiant perthnasol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi'r argymhellion ar waith.
Canfu’r Ombwdsmon y bu cryn ddryswch yng nghyswllt y rhesymau dros anfon Mr P i’r ysbyty, ond nid oedd y dystiolaeth yn awgrymu bod Mrs P wedi cael ei chamarwain. Felly nid oedd yn cyfiawnhau’r rhan hon o’r gŵyn.
Achos 200802231 & 200802232 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (PDF: 370.17Kb)
I weld dogfennau PDF fyddwch angen copi o Adobe Acrobat Reader