Achos 200801217 & 200900897 - Cyngor Gwynedd & Llywodraeth Cynulliad Cymru (Benthyciadau Myfyrwyr Cymru & Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyf)
Crynodeb
Cwynodd Mr K am y modd y proseswyd ei geisiadau am Lwfansau Myfyrwyr Anabl a Grant Dysgu’r Cynulliad gan y Cyngor a’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyf (a oedd yn ymdrin â swyddogaethau’n ymwneud â chyllid myfyrwyr ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru). Roedd Mr K wedi gadael cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) oherwydd ei iechyd ac mae ei gŵyn yn ymwneud â’r ffaith bod y Cyngor wedi ailasesu ei hawl am grantiau yn ddiangen ar sawl achlysur, er iddo ad-dalu cyfran o’r grant, gan arwain at 7 hysbysiad gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn mynnu ei fod yn ad-dalu’r grant yn llawn neu’n ad-dalu amrywiol rannau ohono. Cwynodd ymhellach fod y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi atal taliadau ei Lwfans Myfyrwyr Anabl (Lwfans yr oedd ganddo hawl iddo yng nghyswllt y cwrs PhD yr oedd yn ei ddilyn mewn prifysgol arall) nes bod Mr K yn ad-dalu’r grant yr oedd y Cwmni’n honni ei fod wedi cael ei ordalu. Yn olaf, cwynodd Mr K nad oedd y Cyngor na’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi ymateb yn briodol i’w gwynion, a bod y naill yn beio’r llall.
Dyfarnais fod y gŵyn wedi’i chyfiawnhau. Dangosai’r ymchwiliad fod y Cyngor a’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi methu cynnal yr ailasesiadau cywir ac anfon llythyrau’n ymwneud â thalu gordaliadau at Mr K ar ôl iddo adael y cwrs TAR. Yn ogystal, ni lwyddodd y Cyngor na’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i gyfathrebu â’i gilydd yn brydlon ac yn effeithiol er mwyn datrys yr anawsterau ar ran Mr K pan oedd ei lythyrau i’r ddau sefydliad yn gwneud hyn yn gwbl amlwg. Yn hytrach, buont yn beio ei gilydd ac yn atal y taliadau yr oedd gan Mr K hawl iddynt. Bu methiannau hefyd o ran ymateb yn briodol i lythyrau Mr K a’i gwynion dilynol. Yn benodol, roedd datganiad y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i Mr K nad oedd ganddo ddim cofnod o’i negeseuon e-bost (gan gynnwys copïau papur a anfonwyd ymlaen wedyn) gan fod y Cwmni yn cymryd camau eraill ar y pryd, ac nad oedd yr e-bost ar gael, yn rhagrithiol ac yn anonest.
Yr wyf yn argymell bod y Cyngor a’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn ymddiheuro i Mr K ac yn talu cyfanswm o £700 iddo i wneud iawn am yr anghyfiawnder a ddioddefodd. Yn ôl y Cyngor, y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae mesurau’n cael eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r anawsterau a welwyd yn achos Mr K, gan gynnwys y problemau â’r “system”. Serch hynny, argymhellaf y dylai pob un o’r tri chorff hwn roi diweddariad i mi ynghylch y mesurau hyn, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer sylwi ar broblemau yn gynt o lawer, gwella dulliau cyfathrebu rhwng y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ac awdurdodau lleol Cymru, a gwelliannau o ran ymdrin â llythyrau a chwynion myfyrwyr.
Achos 200801217 & 200900897 - Cyngor Gwynedd & Llywodraeth Cynulliad Cymru (Benthyciadau Myfyrwyr Cymru & Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyf) (PDF: 339.67Kb)
I weld dogfennau PDF fyddwch angen copi o Adobe Acrobat Reader .