Achos 200800349 - Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Mon
Crynodeb
Mae Mr K yn gweithio i uned adsefydlu drosiannol (“yr Uned”) yng Ngogledd Lloegr. Gwnaeth gŵyn ar ran un o gleifion yr Uned, sef Mr Z, yn erbyn Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn (“y BILl”). Yr oedd Mr Z yn gymwys i gael gofal parhaus wedi’i gyllido’n llawn gan y GIG ar yr adeg y rhoddodd y Corff GIG oedd yn bodoli cyn y BILl, sef Awdurdod Iechyd, Mr Z yn yr Uned ym 1999.
Yn 2003, rhoddodd yr Awdurdod Iechyd y gorau i gyllido lleoliad Mr Z. Nid yw’r BILl a ddaeth yn lle’r Awdurdod Iechyd erioed wedi talu dim tuag at leoliad Mr Z. Cymerodd Cyngor Sir Ynys Môn y cyfrifoldeb dros y taliadau yn 2003 ac mae wedi bod yn eu talu ers y dyddiad hwnnw. Fodd bynnag, nid yw Cyfraniad y Cyngor wedi cadw’n wastad â’r cynnydd mewn costau. Dywedodd yr Uned ei bod ar ei cholled o filiynau o bunnau.
Ni chymerodd y BILl gyfrifoldeb dros y taliadau nag ymchwilio i iechyd Mr Z pan gysylltodd yr Uned â’r Bwrdd yn 2007. Ar ben hyn, ni allai'r BILl ddod o hyd i dystiolaeth bendant fod yr Awdurdod Iechyd wedi dod i’r casgliad nad oedd Mr Z yn gymwys i gael gofal parhaus yn 2003 na chyn hynny. Ni allai ddangos chwaith fod penderfyniad ffurfiol wedi'i wneud na’i gyfleu i Mr Z na'i gynrychiolwyr.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad na ddylai’r Awdurdod Iechyd fod wedi rhoi’r gorau i dalu am leoliad Mr Z. Pe bai heb wneud hynny, byddai’r BILl wedi etifeddu’r cyfrifoldeb dros gyllido gofal Mr Z yn yr Uned. Nid oedd hyn wedi digwydd ac, o ganlyniad, roedd lleoliad Mr Z wedi cael ei roi mewn perygl sylweddol.
Dyfarnodd yr Ombwdsmon fod y gŵyn yn un gyfiawn. Argymhellodd, ymysg pethau eraill, y dylai’r BILl dalu £110,000 o iawndal i’r Uned tuag at y diffyg mewn cyllid oedd wedi cronni.
Achos 200800349 - Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Mon (PDF: 224.72Kb)
I weld dogfennau PDF fyddwch angen copi o Adobe Acrobat Reader