Achos 200600720 - Cyngor Sir Caerfyddin

Crynodeb

Cafodd Sally, menyw agored i niwed, ei cham-drin yn gorfforol mewn canolfan ddydd a redir gan y Cyngor ym mis Mehefin 2005 ("y gamdriniaeth gyntaf"). Yr oedd yr achwynydd, “Ms West”, wedi rhoi gwybod am y gamdriniaeth ym mis Hydref 2005. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd Adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor wedi delio’n briodol â’r honiad o gam-drin o dan ei gweithdrefnau ei hun. Cafodd Sally ei cham-drin yn gorfforol unwaith eto ym mis Gorffennaf 2006 (“yr ail gamdriniaeth”). Yr oedd yr Heddlu wedi ymchwilio i hyn. Tynnodd Ms West sylw at y gamdriniaeth gyntaf unwaith eto ac at fethiant y Cyngor i ymchwilio’n briodol i’r gamdriniaeth honno. Yr oedd yr Adran wedi cymryd rhai camau i ymchwilio i’r gamdriniaeth gyntaf ond canfu’r Ombwdsmon fod yr ymchwiliad yn ddiffygiol.

Cwynodd Ms West i'r Cyngor ynghylch ei fethiant i gymryd camau priodol. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi delio’n briodol â’i chwyn.

Nododd yr Ombwdsmon sawl enghraifft o gamweinyddu difrifol a methiant o ran gwasanaeth yn y ffordd yr oedd y Cyngor wedi ymdrin â chwynion Ms West a chamdriniaeth Sally. Canfu dystiolaeth o fethiant treiddiol mewn rheoli yn y gwasanaeth Anableddau Dysgu ar y pryd, oedd yn cael ei nodweddu gan ddiffyg arweiniad ac atebolrwydd a chan fethiant i gydymffurfio â’r safonau gofynnol isaf hyd yn oed o ran arferion gorau yn y gwasanaeth, gan roi defnyddwyr y gwasanaeth a staff fel ei gilydd mewn perygl. Canfu fod y camweinyddu a'r methiant o ran gwasanaeth wedi peri gofid sylweddol i Ms West am yr union reswm ei bod wedi dilyn canllawiau arferion gorau wrth roi gwybod am y cam-drin. Canfu fod defnyddwyr y gwasanaeth hefyd wedi cael cam oherwydd eu bod wedi cael eu rhoi mewn perygl gan fethiant yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ogystal â’r staff oedd yn gorfod gweithio mewn amgylchedd o’r fath. Nododd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cymryd camau i ddelio â llawer o’r diffygion a nodwyd ganddo ers y digwyddiadau sydd wedi cael eu cofnodi yn yr adroddiad hwn.

Achos 200600720 - Cyngor Sir Caerfyddin (PDF: 721.35Kb)

I weld dogfennau PDF fyddwch angen copi o Adobe Acrobat Reader .

Adobe