Achos 200901952 - Meddyg Teulu

Crynodeb

Cwynodd Mr K am y driniaeth a gafodd ei fam, Mrs K, gan ei meddyg teulu, Dr Bohra (“y meddyg”). Dywedodd Mr K fod y meddyg wedi methu gwneud diagnosis na chyfeirio Mrs K yn briodol ar ôl iddi gyflwyno symptomau iddo. Yn yr ysbyty yn ddiweddarach, canfuwyd bod Mrs K yn dioddef o ganser yr arennau, ac yn drist iawn, bu farw. Honnodd Mr K na fyddai ei fam wedi marw pe bai'r meddyg wedi ei chyfeirio ar frys.

Canfu’r Ombwdsmon y dylai'r meddyg fod wedi cyfeirio Mrs K ar frys ar ôl un ymgynghoriad penodol. Yn ystod yr ymweliad hwnnw, dywedodd Mrs K wrth y meddyg bod gwaed yn ei hwrin a bod ganddi boen yn ei habdomen. Canfu’r Ombwdsmon y dylai’r meddyg fod wedi cyfeirio Mrs K at arbenigwr oherwydd yr amheuaeth bod canser arni. Mae canllawiau clinigol yn dynodi y dylai gwaed yn yr wrin arwain at gyfeirio o’r fath dan yr hyn a elwir yn “rheol pythefnos”. Mae hyn yn golygu bod claf yn cael ei weld gan arbenigwr perthnasol o fewn pythefnos. Drwy beidio â chyfeirio Mrs K yn yr achos hwn, gwnaeth y meddyg gamgymeriad mawr. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y byddai Mrs K wedi cael gwell siawns o lawer o oroesi petai'r meddyg wedi'i chyfeirio at arbenigwr. Felly, dyfarnodd fod y gŵyn wedi'i chyfiawnhau, er y nododd fod y meddyg wedi cydnabod y mater, wedi dysgu ohono ac wedi ymddiheuro ar sawl achlysur. Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y meddyg yn ymddiheuro eto ac yn talu £3000 i Mr K i gydnabod yr hyn y mae wedi’i ddioddef yn ychwanegol oherwydd yr ansicrwydd ynghylch beth fyddai canlyniad cyfeirio ei fam yn fuan ac yn briodol.

Achos 200901952 - Meddyg Teulu (PDF: 218.31Kb)

I weld dogfennau PDF fyddwch angen copi o Adobe Acrobat Reader

Adobe