Achos 200801193 & 200801194 - Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog & Cyngor Sir Powys

Crynodeb

1. Cwynodd Mr O, datblygwr eiddo, fod Cyngor Sir Powys yng Ngorffennaf 2008 wedi symud teulu o Sipsiwn i dir gerllaw ei dir ef ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac wedi ei ddatblygu heb ganiatâd cynllunio gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol a heb drwydded ddatblygu gan Lywodraeth y Cynulliad. Dywedodd fod y datblygiad di-awdurdod wedi cael effaith andwyol ar ymdrechion ei gwmni i farchnata ei ddatblygiad ef. Roedd yn poeni na chymerwyd camau gorfodi gan yr Awdurdod a bod oedi wedi bod tan Ebrill 2009 cyn i gais cynllunio ôl-weithredol gan y Cyngor, a oedd wedi arwain at ganiatâd dros dro ar gyfer y safle, gael ei benderfynu gan yr Awdurdod. Teimlai fod gwybodaeth gan swyddogion cynllunio’r Awdurdod ynghylch y rhagolygon ar gyfer safle parhaol arall wedi dylanwadu’n annheg ar benderfyniad y pwyllgor cynllunio i gymeradwyo’r safle dros dro at ddefnydd y teulu yn y cyfamser.

2. Dywedodd y Cyngor bod angen iddo fod wedi symud y teulu ar frys o safle parciau lorïau yn Aberhonddu i’r tir a oedd gerllaw eiddo Mr O tra’n ceisio dod o hyd i a datblygu safle mwy parhaol iddynt. Er bod yr Ombwdsmon yn cydnabod bod angen symud y teulu o safle’r parc lorïau, penderfynodd gadarnhau’r gŵyn oherwydd teimlai fod gan y Cyngor ddigon o wybodaeth i baratoi cais cynllunio ar gyfer y safle dros dro cyn symud y teulu. Fel y digwyddodd, roedd cais ôl-weithredol wedi’i wneud ond ni chafodd ei ystyried na’i gymeradwyo am wyth mis arall oherwydd prinder staff yn yr Awdurdod. Roedd yr oedi hwn yn annerbyniol a theimlai’r Ombwdsmon y byddai wedi achosi ansicrwydd i Mr O a’i gwmni a oedd yn awyddus i ddatblygu a marchnata ei safle ei hun. Cytunodd y ddau gorff i dalu £250 yr un i Mr O i adlewyrchu’r trafferthion hynny.

3. Dros yr un cyfnod, roedd y Cyngor wedi dod o hyd i safle parhaol addas i’r teulu a oedd angen caniatâd cynllunio cyn ei ddatblygu. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y wybodaeth yma wedi bod ar gael i bwyllgor cynllunio’r Awdurdod pan fu’n ystyried y cais am y safle dros dro. Penderfynodd beidio â chadarnhau’r cwyn bod y pwyllgor wedi cael ei ddylanwadu’n annheg i feddwl y byddai’r safle arfaethedig yn bendant ar gael i’r teulu. Dysgodd yr Ombwdsmon nes ymlaen fod caniatâd i ddatblygu’r safle arfaethedig wedi cael ei wrthod. Pwysodd felly ar y Cyngor i fynd ati’n ddi-oed i ystyried mesurau a safleoedd addas eraill ar gyfer y teulu i osgoi gwneud defnydd tymor hir a pharhaus o’r safle dros dro.

Achos 200801193 & 200801194 - Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog & Cyngor Sir Powys (PDF: 306.98Kb)

I weld dogfennau PDF fyddwch angen copi o Adobe Acrobat Reader .

Adobe