Achos 200800779 - Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin
Crynodeb
Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin (“y Bwrdd”) wedi gwneud ei benderfyniadau yn amlwg ac na lwyddodd i gomisiynu'r gofal angenrheidiol ar gyfer ei fab, Mr B, ar ôl iddo gael ei bennu'n gymwys i gael gofal parhaus llawn gan y GIG.
Cafodd Mr B anaf difrifol i’w ymennydd yn 2006. Gadawodd yr ysbyty yn 2007. Daeth tîm amlddisgyblaeth i’r casgliad fod Mr B yn gymwys i gael gofal parhaus a bod angen ffisiotherapi, therapi galwedigaethol a therapi iaith a lleferydd arno fel y nodwyd.
Trefnwyd rhywfaint o’r pecyn gofal gyda gwasanaethau craidd y GIG, a chomisiynodd y Bwrdd fwy o fewnbwn gan ddarparwyr y GIG. Fodd bynnag, ni ddarparwyd cyfran helaeth o’r pecyn i Mr B. Ni chafodd ddigon o ffisiotherapi na therapi galwedigaethol, ac ni chafodd ddim therapi iaith a lleferydd. Ar ôl cyflwyno amryw o sylwadau i'r Bwrdd, yn y pen draw fe dalodd Mr A yn breifat am lawer o'r gwasanaethau na ddarparwyd.
Cyflwynodd Mr A gŵyn am y Bwrdd, a chafodd y gŵyn ei hadolygu gan y Panel Adolygu Annibynnol. Canfu’r adolygiad nad oedd y Bwrdd wedi ymateb yn briodol i achos Mr B yng ngoleuni asesiad y tîm amlddisgyblaeth o’i anghenion a’i gymhwysedd i gael gofal parhaus. Derbyniodd y bwrdd ganfyddiadau'r adolygiad.
Cyflwynodd Mr A y gŵyn i’r Ombwdsmon gan nad oedd Mr B wedi cael lefel y gwasanaeth yr oedd ei hangen arno yn ôl y tîm amlddisgyblaeth. Yr oedd yr ymchwiliad gan yr Ombwdsmon yn cynnwys casglu llawer o dystiolaeth ddogfennol, a chyfweld â Mr A, swyddogion y Bwrdd a darparwyr gofal Mr B. Hefyd, cafodd yr Ombwdsmon gyngor arbenigol gan un o'i gynghorwyr proffesiynol.
Canfu’r Ombwdsmon fod penderfyniad ysgrifenedig y Bwrdd yn ddryslyd iawn ac felly bod Mr A a darparwyr gofal y GIG yn ansicr ynghylch statws Mr B o ran gofal parhaus. Fodd bynnag, ei brif gasgliad oedd nad oedd y Bwrdd wedi comisiynu gwasanaethau digonol i Mr B er mwyn diwallu ei anghenion a aseswyd, ac nad oedd ganddo gyfiawnhad digonol dros hynny. O ganlyniad, ni chafodd Mr B rywfaint o’r gofal yr oedd ei angen arno, a gwariodd Mr A lawer o arian pan na ddylai fod angen iddo wneud hynny.
Dyfarnodd yr Ombwdsmon fod y gŵyn yn un gyfiawn, a gwnaeth nifer o argymhellion. Yr oedd y rhain yn cynnwys iawndal ariannol i Mr A a Mr B ac asesiad amlddisgyblaeth newydd o anghenion Mr B. Mae’r corff sy’n olynu Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin, sef Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, wedi cytuno i weithredu’r holl argymhellion.
Achos 200800779 - Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin (PDF: 266.31Kb)
I weld dogfennau PDF fyddwch angen copi o Adobe Acrobat Reader .