Achos 200800024 - Cyngor Sir Penfro
Crynodeb
Cwynodd Mr W fod y Cyngor wedi oedi cyn ymateb i’w bryderon ynghylch lles ei fab A, pan oedd yng ngofal ei fam. Dywedodd Mr W fod A mewn perygl o gael niwed ac yn dioddef o esgeulustod a ddylai fod wedi derbyn sylw ynghynt. Roedd Mr W hefyd yn anhapus nad oedd y Cyngor wedi bod yn ei ddiweddaru’n gyson, er bod ganddo gyfrifoldeb rhiant.
Casglodd yr Ombwdsmon er bod gweithwyr cymdeithasol yn ymwybodol o hanes teulu mam A, nad oedd asesiadau cynnar yn ateb yr angen i sicrhau bod mam A yn cydnabod y risg ac yn cadw ei phlant yn ddiogel. Ni ymchwiliwyd yn iawn i’r wybodaeth fod A yn cael ei adael ar ei ben ei hun gydag ail aelod o’r teulu agos, a oedd wedi’i gael yn euog o gam-drin plant. Pan wnaed ymholiadau ynghylch hyn fisoedd wedyn, arweiniodd at Gynhadledd Amddiffyn Plant.
Ar y cyfan, mae’r ymchwiliad wedi cadarnhau diffygion difrifol. Roedd y Cyngor yn llusgo’i draed ar gychwyn mesurau amddiffyn plant er gwaetha’r wybodaeth a dderbyniodd gan y gwasanaethau brys yn Rhagfyr 2005. O ganlyniad roedd oedi o 18 mis wedi bod cyn i A gael ei gofrestru fel plentyn mewn perygl a dylai’r Cyngor fod wedi gweithredu ynghynt i ddiogelu A a hybu ei les. Derbyniwyd gwybodaeth hefyd gan ysgol A – gan nyrs yr ysgol a’r Pennaeth – ond nid oedd unrhyw gofnod ysgrifenedig o ymateb y Cyngor. Gallai’r Ombwdsmon ond casglu na chafodd y pryderon hyn eu hystyried. Hefyd, nid oedd methiant y Cyngor i ymateb i gais y Pennaeth am gynhadledd amddiffyn plant, a wnaed ar ran nifer o staff proffesiynol pryderus, yn gydnaws ag ysbryd o weithio ar sail aml-asiantaethol.
Casglodd yr Ombwdsmon fod A wedi dioddef o ganlyniad i oedi’r Cyngor cyn gweithredu. Roedd ei argymhellion yn cynnwys talu £5,000 i A a £500 i Mr W am adnabod y diffygion mewn sut yr ymdriniwyd â’i gwyn ac am ei amser a’i drafferth yn cyflwyno’r cwyn. Gofynnwyd i’r Cyngor hefyd ddarparu archwiliadau o achosion amddiffyn plant sy’n cael eu cyfeirio ato.
Achos 200800024 - Cyngor Sir Penfro (PDF: 414.72Kb)
I weld dogfennau PDF fyddwch angen copi o Adobe Acrobat Reader .