Ymchwiliadau
O dan Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005, gall yr Ombwdsmon gynhyrchu dau fath o adroddiad yn dilyn ymchwiliad i gwyn gan aelod o'r cyhoeddus eu bod wedi dioddef cam neu galedi drwy gamweinyddu neu fethiant gwasanaeth gan gorff o fewn ei awdurdodaeth. Fe gynhyrchir y math gyntaf o adroddiad (a elwir yn adroddiad Adran 16) pan y mae'r Ombwdsmon o'r farn bod yr adroddiad ymchwil yn cynnwys materion budd cyhoeddus. Mae'n rhaid i'r corff dan sylw roi cyhoeddusrwydd i adroddiad o'r fath ar ei draul ei hun. Mae'r ail fath o adroddiad y gellir ei gynhyrchu yn cael ei alw'n adroddiad Adran 21. Gall gyhyrchu'r adroddiad hwn os y mae'r corff cyhoeddus dan sylw wedi cytuno i weithredu unrhyw argymhellion y mae wedi'i wneud ac os y mae wedi'i fodloni nad oes yna fater o fudd cyhoeddus yn gysylltiedig.
Ar y dudalen hon gallwch weld crynodeb ac adroddiad llawn yr adroddiadau budd cyhoeddus wedi'u cyhoeddi dros y ddwy flynedd diwethaf (gellir eu gweld mewn dwy ffordd, naill ai o dan drefn pwnc, neu wedi'u rhestru fesul corff cyhoeddus). Hefyd ar y dudalen hon ceir rhestr o'r adroddiadau ymchwiliad eraill wedi'u cynhyrchu dros y cyfnod hwn.





