Drwy'r Post
Gallwch gyflwyno'ch cwyn drwy gwblhau'r ffurflen arlein ar y wefan hon. Er hynny, os yw'n well gennych, gallwch hefyd brintio'r ffurflen briodol, sydd ar gael i'w lawrlwytho yma:
Ffurflen gwyno am Wasanaeth Cyhoeddus
Ffurflen gwyno am Gynghorydd
Wedi ei chwblhau, dylech yna bostio'r ffurflen atom:
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Yr Ombwdsmon
Peter Tyndall yw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae ganddo bwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gall hefyd edrych i gwynion bod aelodau llywodraeth leol wedi torri cod ymddygiad eu hawdurdod. Mae’n annibynnol oddi wrth bob corff llywodraeth.
Mae ganddo dîm o bobl sy’n ei helpu i ystyried ac ymchwilio i gwynion. Mae’r gwasanaeth a ddarperir yn ddiduedd ac yn rhad ac am ddim.
Newyddion Diweddaraf
Adroddiad Diddordeb Cyhoeddus
Ar 11 Ionawr 2012, fe gyhoeddodd yr Ombwdsmon adroddiad ar ei ymchwiliad i gŵyn yn erbyn Cyngor Sir Caerfyddin. Ceir manylion llawn yma.
Coflyfr yr Ombwdsmon
Mae rhifyn diweddaraf Coflyfr yr Ombwdsmon bellach ar gael yma.